Mae Ewch â Mi Hefyd! ar gyfer pawb yn Sir Benfro:
- sy’n ei chael yn anodd teithio oherwydd na allant yrru; sydd heb gar; sydd heb gludiant cyhoeddus ar gael; neu sy’n brin o arian;
- sydd eisiau gweld gwell defnydd o’r holl deithiau mewn ceir bob dydd yn ein Sir gyda seddau gwag ynddynt;
- sydd eisiau creu cymunedau gwell, mwy cysylltiedig, yr ydym i gyd eisiau byw ynddynt.
I gofrestru ar gyfer Ewch â Mi Hefyd! rhaid i chi:
- fod yn 18 oed neu hŷn.
- fod yn byw yn Sir Benfro neu angen teithio yn ac o gwmpas y sir.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn gallu gwneud cais am daith. Fe all ceisiadau am deithiau fod i unrhyw fan, ar unrhyw adeg, ac am unrhyw reswm, ond eu bod yn cychwyn neu’n gorffen yn Sir Benfro. Byddwn yn anfon eich cais i’r holl yrwyr a gredwn allai helpu, gan obeithio y bydd rhywun yn gallu cynnig lifft i chi.
Byddwn yn disgwyl i chi wneud cyfraniad tuag at gost y daith - bydd Ewch â Mi Hefyd! yn anfon awgrym o faint atoch chi a’r gyrrwr, ar sail pellter y daith, fel bod pawb yn glir cyn i’r lifft ddigwydd.
Ydych chi’n barod i ymuno â ni? Cliciwch yma i ymuno
Po fwyaf o yrwyr sy’n ymuno, mwyaf tebygol y gallwn gael hyd i daith i gyfateb i bob cais, a’r mwyaf y gallwn rannu’r teithiau. Helpwch ni wneud i hyn weithio yn Sir Benfro – cofiwch sôn am Ewch â Mi Hefyd! wrth bawb a wyddoch. Os oes gennych rywle lle gallwch roi posteri neu gynnig taflenni, os oes gennych awgrymiadau ynghylch sut allwn ni hybu Ewch â Mi Hefyd! neu os hoffech i ni ddod i’ch grŵp neu glwb i sôn am y prosiect, cofiwch gysylltu â ni.
Gallwch hefyd lawrlwytho a rhannu deunyddiau marchnata yma.